Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-15-12 papur 9

 

Y PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL – YMCHWILIAD I OFAL PRESWYL I BOBL HŶN

 

CYFARFOD Y GRŴP CYFEIRIO (17 EBRILL 2012)

 

Cefndir

 

1.   Sefydlodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol grŵp cyfeirio ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng ngwanwyn 2012. Mae’r grŵp yn cynnwys y rhai sydd wedi cynorthwyo cyfeillion ac aelodau teuluol mewn lleoliadau gofal preswyl, y rhai sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd neu sy’n wynebu’r posibilrwydd o wneud hynny yn y dyfodol.

 

2.   Rôl y grŵp cyfeirio allanol yw mynegi barn i’r Pwyllgor ar faterion allweddol sy’n cael eu codi yn ystod yr ymchwiliad. Mae’r materion hyn yn cynnwys y cwestiwn a yw aelodau’r grŵp yn credu bod y wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y dystiolaeth yn adlewyrchu eu profiadau personol ac a ydynt yn cytuno â chyfeiriad y polisi presennol o ran darparu gofal preswyl i bobl hŷn.

 

3.   Bydd y grŵp cyfeirio yn cyfarfod yn fisol wrth iddo glywed tystiolaeth lafar, gan ystyried tystiolaeth a glywyd yn barod a chynnig cwestiynau posibl ar gyfer sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol. Bydd y grŵp cyfeirio yn cytuno ar gofnodion pob cyfarfod o’r grŵp cyn iddynt gael eu cyhoeddi.

 

Crynodeb

 

4.   Cyfarfu’r grŵp ar 17 Ebrill 2012 i drafod y prif themâu a gododd o sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 23 Chwefror (egluro’r cefndir), 29 Chwefror (defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr), 14 Mawrth (byrddau iechyd lleol) a 22 Mawrth (awdurdodau lleol).

 

5.   Roedd y grŵp yn teimlo bod llawer o’r dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn yn dangos synnwyr cyffredin, a gofynnodd pam nad oedd sawl dull a awgrymwyd er mwyn gwella gofal i bobl hŷn wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn hyd yma. Roedd y grŵp hefyd yn awyddus i bwysleisio bod llawer o enghreifftiau cadarnhaol o ofal preswyl yn bodoli, a’i fod yn gobeithio na fydd ymchwiliad ac adroddiad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar yr agweddau negyddol ar ofal preswyl yn unig.

 

Prif themâu

 

6.   Cytunodd y grŵp cyfeirio mai’r prif themâu yn deillio o’r sesiynau tystiolaeth ffurfiol a restrwyd ym mharagraff 4 oedd:

 

-        Canfyddiad gwael ymhlith y cyhoeddo ran cartrefi gofal a’r angen i wella’r canfyddiad hwn ymhlith darpar breswylwyr a’r cyhoedd yn ehangach;

 

-        Yr angen am gymorth a gwybodaeth well i’r rhai sydd wedi cychwyn ar y siwrnai tuag at ofal preswyl;

 

-        Yr angen i wella prosesau asesu, o ran amseru ac ystyried newid mewn anghenion;

 

-        Yr angen i fynd i’r afael â materion ynghylch urddas mewn cartrefi gofal preswyl;

 

-        Yr angen am gontinwwm gofal, lle gellir ymateb i anghenion sy’n esblygu ymhlith preswylwyr mewn un lleoliad, yn hytrach na gofyn bod preswylwyr yn symud wrth i’w anghenion newid;

 

-        Pwysigrwydd cefnogi ymyrraeth gynnar ac argaeledd gwasanaethau ataliol, yn ogystal ag amseru asesiadau yn well a gwell opsiynau ar ôl i bobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty;

 

-        Hyfforddi a recriwtio staff (a mwy o gydnabyddiaeth o ofal cymdeithasol fel gyrfa);

 

-          Cydweithio integrediggwell rhwng y rhai sy’n gysylltiedig â darparu gofal preswyl (yn cynnwys gwaith rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol);

 

 

-        Pwysigrwydd gweithgareddau a symbyliad mewn lleoliadau gofal;

 

-        Yr heriau sy’n codi wrth ddarparu gofal i bobl hŷn mewn ardaloedd gwledig.

 

7.   Cododd nifer o faterion eraill y cytunodd y grŵp y byddai’n eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol. Y materion hyn oedd rheoliad ac archwilio a chyllido gofal.

 

8.   Wrth ystyried y prif faterion a’r dystiolaeth a gafwyd, gwnaethpwyd y pwyntiau a ganlyn gan y grŵp:

 

-        Bod angen gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r canfyddiad gwael ymhlith y cyhoedd o fywyd mewn cartrefi gofal a’r staff sy’n gweithio ynddynt. Roedd y grŵp yn pryderu’n fawr bod gan bobl sy’n mynd i gartrefi ddisgwyliadau isel, ac roedd am sicrhau bod y bobl hyn yn parhau i fwynhau bywydau llawn. Roedd aelodau’r grŵp yn teimlo bod lle mewn cymdeithas ar gyfer gofal preswyl, yn ogystal â modelau eraill ar gyfer darparu gofal, oherwydd gall byw gartref ar ben eich hun fod yn brofiad unig iawn.

 

-        Roedd y diffyg cefnogaeth a gwybodaeth sydd ar gael i bobl a’u teuluoedd ar eu siwrnai tuag at ofal cymdeithasol yn brofiad a rannwyd gan nifer o aelodau’r grŵp o ran dewis cartrefi gofal. Siaradodd aelodau’r grŵp am y diffyg gwybodaeth am gartrefi a oedd ar gael, a’r ffordd nad oeddent yn glir am yr hyn i chwilio amdano wrth fynd drwy’r broses o chwilio am gartref gofal da. Gofynnodd y grŵp beth yw gofal da, yn enwedig beth yw gofal dementia da. Awgrymwyd y byddai pobl sydd wedi bod drwy’r system yn ffynhonnell dda o gymorth a gwybodaeth i’r teuluoedd hynny sydd wedi cychwyn ar y siwrnai tuag at ofal preswyl—gallai hyn fod yn ddefnyddiol oherwydd roedd y grŵp yn teimlo bod angen i’r teuluoedd hyn ddatblygu arbenigedd yng ngofal cymdeithasol yn gyflym iawn, sy’n arbennig o anodd oherwydd y sefyllfaoedd argyfyngus y maent yn aml yn eu hwynebu. Os yw gwybodaeth am fathau o ofal ac yn y blaen ar gael, roedd y grŵp yn teimlo ei bod yn anodd dod o hyd iddi, ac nid yw’n cael ei dangos i’r bobl sydd o bosibl ei hangen.

 

-        Mynegwyd pryder penodol mewn perthynas â’r diffyg gwybodaeth a chymorth sydd ar gael i bobl sy’n talu am ofal eu hunain, efallai na fyddent yn cael eu hysgogi i gael mynediad at gymorth gan awdurdodau lleol. Hefyd, nodwyd problemau gyda’r broses o geisio sicrhau cyllid ar gyfer gofal iechyd parhaus drwy’r GIG, yn enwedig ar gyfer pobl sydd â dementia.

 

-        Roedd yr angen am gontinwwm gofal yn gysyniad allweddol i’r grŵp. Roedd gan rhai o aelodau’r grŵp brofiad o’r trafferthion sy’n codi pan fo perthnasau’n cael eu trosglwyddo o gartref gofal preswyl i gartref nyrsio a’r cyffro a’r gofid y mae hyn yn ei achosi. Yn benodol, cafodd y trafferthion o ran gorfod ffurfio perthnasau newydd gyda staff a phreswylwyr a’r dewis cyfyngedig o gartrefi gofal eu trafod. Fodd bynnag, pwysleisiodd y grŵp os fyddai cartrefi gofal yn esblygu i ddarparu continwwm gofal o dan un to, byddai angen dulliau diogelu i sicrhau bod niferoedd staff priodol yn cael eu cynnal ar gyfer pob math o ofal yn y lleoliad hwnnw.

 

-        Bu’r grŵp yn trafod y broses asesu ar gyfer mynediad at ofal preswyl a’r amser gorau i gynnal asesiad o’r fath. Cytunodd y grŵp nad yw cynnal asesiad tra bod unigolion mewn ysbyty yn ddelfrydol, yn enwedig oherwydd y gallai iechyd unigolion wella unwaith iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Awgrymwyd y gallai asesiadau gwell sy’n cael eu cynnal nes ymlaen ar adeg fwy priodol gynyddu nifer yr opsiynau sydd ar gael i bobl hŷn, gan gynnwys dychwelyd i’w cartrefi eu hunain.

 

-        Darparodd y grŵp nifer o esiamplau o’u perthnasau’n colli eiddo angenrheidiol, gan gynnwys dannedd gosod, cymhorthion clyw a sbectolau tra eu bod yn cael gofal preswyl (ac mewn ysbytai), a thrafferthion dilynol wrth gael mynediad at optegwyr/deintyddion a gweithwyr proffesiynol eraill i gael offer newydd. Cytunodd y grŵp fod cael mynediad at wasanaethau ac offer fel hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau lefel sylfaenol a derbyniol o urddas. Yn rhannol, roedd y grŵp yn teimlo bod hyn yn gysylltiedig â safon asesiad iechyd y preswylwyr pan roeddent yn dod i’r lleoliad gofal, a bod angen codi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynghylch pwysigrwydd cymryd camau i sicrhau bod anghenion synhwyraidd a deintyddol unigolion yn cael eu monitro’n rheolaidd. Roedd y grŵp yn teimlo y gellid gwneud gwelliannau yn y maes hwn.

 

-        Bu’r grŵp yn trafod a allai cartrefi gofal fod mwy fel canolfannau adnoddau lleol y gallai gofalwyr fynd iddynt i gyfarfod â’i gilydd, gyda chanolfannau dydd wedi’u hintegreiddio i’r cartref a lle gellid sefydlu cysylltiadau gwell gyda’r gymuned. Mynegwyd rhai pryderon ynghylch dichonolrwydd gwneud hyn o ystyried y strwythurau sy’n bodoli a’r hinsawdd gyfredol o adnoddau prin. Fodd bynnag, roedd y grŵp yn teimlo y gallai’r dull hwn helpu i gynyddu cyfranogiad y gymuned a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â chartrefi gofal.

 

-        Roedd y grŵp yn teimlo y dylid ystyried gofalu fel galwedigaeth debyg i feddygaeth neu ddysgu a mynegodd ei farn bod angen parhaus i hyfforddi a recriwtio staff sy’n addas ar gyfer y proffesiwn. Roedd y grŵp yn teimlo ei fod yn ymddangos nad oedd yr hyfforddiant yn trafod urddas sylfaenol a materion yr oedd y grŵp teimlo eu bod yn synnwyr cyffredin, a dadleuodd bod angen cynnwys profiad gwaith yn yr hyfforddiant. Bu’r grŵp yn trafod sut gall gweithio yn y proffesiwn gofalu fod yn werth chweil i’r unigolyn, a bod angen deall hynny os yw’r canfyddiad o weithio yn y maes hwn yn mynd i wella. Cafwyd awgrymiad bod angen i staff gofal preswyl gael tri pheth hanfodol, sef hyfforddiant, amser a natur dda.

 

-        Yn ogystal â hyfforddiant gwell i staff, bu’r grŵp yn trafod yr angen am gymorth a hyfforddiant i ofalwyr. Teimlwyd nad oedd pobl yn aml yn disgrifio eu hunain fel gofalwyr, ac felly nid oeddent yn cael y cymorth a oedd angen arnynt.

 

-        Roedd yr angen i wasanaethau sy’n cynnig gofal preswyl, er enghraifft awdurdodau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, gydweithio yn bwysig i’r grŵp. Roedd aelodau’r grŵp yn credu y dylid cael cymysgedd o bobl i gynnig gofal ar y cyd â gweithwyr proffesiynol, fel gwirfoddolwyr yn y gymuned. Trafodwyd yr angen i gael eglurder o ran gwahanol rolau hefyd, fel gwahanol rolau gweithwyr gofal a gweithwyr cymdeithasol. Roedd y grŵp yn teimlo y gallai gweithio ar y cyd yn well arwain at arbedion. 

 

-        Pwysleisiodd y grŵp bwysigrwydd darparu gweithgareddau a symbyliad priodol mewn lleoliadau gofal. Cytunodd y grŵp fod gweithgareddau a symbyliad priodol yn hanfodol er mwyn sicrhau safon byw preswylwyr, a bod angen codi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn y mae gweithgareddau a symbyliad priodol yn eu golygu i’r gwahanol bobl mewn gwahanol leoliadau gofal. Nid oedd y grŵp yn teimlo bod digwyddiadau grŵp a drefnwyd ymlaen llawn yn unig yn ddigonol: efallai y byddai’n well gan breswylwyr ddilyn eu diddordebau personol, neu eistedd gydag aelod o staff am bum munud dros baned o de.

 

-        Roedd y grŵp yn credu bod darparu eiriolwyr annibynnol yn bwysig iawn. Ystyriwyd y cyngor a’r cymorth y gallent eu rhoi i’r rhai o fewn y system gofal i fod yn werthfawr iawn. Mynegodd aelodau’r grŵp bryderon nad oedd eiriolwyr yn gallu cael mynediad i rai cartrefi, gan ofyn a allai cymal ar y mater hwn gael ei gynnwys yn adroddiadau AGGCC.

 

-        Cafodd pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar ac ail-alluogi eu trafod gan y grŵp. Awgrymwyd y gallai amrywiaeth a maint y gwaith hwn helpu i atal derbyniadau diangen i gartrefi gofal a rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu ar eu gofal eu hunain yn y dyfodol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y grŵp bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r opsiynau hyn a’u bod yn gallu cael mynediad atynt. 

 

Cwestiynau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol

 

9.   Bu’r grŵp hefyd yn trafod yn fras y cwestiynau allweddol i ofyn i dystion yn y dyfodol, gan awgrymu’r materion a ganlyn:

 

-        Gofyn i’r trydydd sector beth yw’r cwmpas ar gyfer gweithio ar y cyd yn ehangach gydag awdurdodau iechyd/awdurdodau lleol a chymunedau;

 

-        Cynnal trafodaethau â chyrff staff ynghylch sut mae mynd i’r afael â natur gwrth-risg rhai cartrefi gofal o ran gwahodd pobl i’w cartrefi [cytunodd y grŵp nad yw hyn yn cynorthwyo’r gwaith o wella dealltwriaeth a chanfyddiadau’r cyhoedd o gartrefi preswyl].

 

-        Sicrhau bod gan y Pwyllgor gyfle i siarad yn uniongyrchol gyda gweithwyr mewn cartrefi gofal, yn enwedig gan nad oes corff penodol yn eu cynrychioli.